EIN HENILLWYR WEDSA 2025
Clwb y Flwyddyn a noddwyd gan Chwaraeon Met Caerdydd
Enillydd: Cardiff Martial Arts
Mae Cardiff Martial Arts wedi tyfu o fod yn ddosbarth Taekwon-do bach yn Nhredelerch i fod yn glwb aml-safle gyda mwy na 700 o aelodau. Gan gynnig Taekwon-do a Chicfocsio i bobl o bob oed, mae’r clwb yn magu hyder ac yn meithrin cynhwysiant. Daw aelodau’r clwb o gefndiroedd amrywiol a rhyngddynt, maen nhw’n siarad 40 o ieithoedd, sy’n adlewyrchiad gwirioneddol o gymunedau amlddiwylliannol Caerdydd.
Teilyngwyr: Clwb Pêl-droed SA1 Dragons a Chlwb Chwaraeon Celtic Tigers
Hyfforddwr y Flwyddyn a noddwyd gan Bartneriaeth Actif Canolbarth y De
Enillydd: Thasan Yoganathan
Mae Thasan yn hyfforddwr Judo Prydeinig ac yn gyn-bencampwr Cymru sy’n hybu cynhwysiant drwy’r grefft ymladd. Ac yntau’n hyfforddi’r Samurai Olympic Judo Club a Chanolfan Genedlaethol Cymru, mae’n cynorthwyo athletwyr o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys medalyddion cenedlaethol ac Ewropeaidd. Mae Thasan, sydd wedi ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ragoriaeth mewn gofal dementia, yn dod â thosturi, disgyblaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol i’w hyfforddi.
Teilyngwyr: Max Rahman a Mojeid Ilays
Prosiect chwaraeon cymunedol y flwyddyn a noddwyd gan Race Equality First
Enillydd: KidCare4U
Mae’r elusen o Gasnewydd, KidCare4U, yn defnyddio chwaraeon i chwalu rhwystrau i iechyd, addysg a chynhwysiant. O hyfforddi hyfforddwyr tennis a nofio i gynnal sesiynau i fenywod yn unig, mae’r elusen yn cefnogi mwy na 150 o fenywod ac yn cael dynion 40+ oed i gymryd rhan mewn sesiynau pêl-droed wythnosol. Fel canolfan Dug Caeredin, mae wedi agor profiadau awyr agored newydd i bobl ifanc.
Teilyngwyr: Cymru Unleashed a Chlwb Ju-jitsu Mosg Hwlffordd
Gwobr Blaengarwr mewn Chwaraeon a noddwyd gan Chwaraeon Anabledd Cymru
Enillydd: Izzy Islam
Mae Izzy yn arwain Hadau Gobaith, menter gan y Bengal Dragons Foundation sy’n hyrwyddo niwroamrywiaeth mewn chwaraeon. Yn rhiant i blant niwroamrywiaeth, mae Izzy yn creu digwyddiadau cynhwysol fel y Diwrnod Chwaraeon Niwroamrywiol, sy’n cynnig gweithgareddau wedi’u haddasu i deuluoedd. O focsio sy’n ystyriol o’r synhwyrau i farchogaeth ceffylau hygyrch, mae Izzy yn ceisio magu hyder ac ymdeimlad o berthyn.
Teilyngwyr: Leif Thobroe a Roopa Vyas
Gwobr Chwaraeon Cynhwysol a noddwyd gan Dîm Cymru
Enillydd: The Black Swimming Association
Mae The Black Swimming Association yn hybu cynhwysiant a diogelwch yn y dŵr ymhlith cymunedau Du ac Asiaidd. Trwy eiriolaeth, addysg a phartneriaethau, mae’n gweithio i sicrhau mynediad teg i gampau dŵr o lawr gwlad i arweinyddiaeth, fel bod pawb yn gallu elwa ar nofio a gweithgareddau mewn dŵr.
Teilyngwyr: Cyngor Tref Llanelli a Chymdeithas Reslo Cymru
Gwobr Cyflawniad Oes a noddwyd gan y Sported Foundation
Enillydd: Mike Tan
Fel Prif Hyfforddwr Karate Budokan International (Ewrop), mae Mike wedi ymroi dros 50 mlynedd i grefftau ymladd a grymuso cymunedol. Ers iddo gyrraedd Cymru o Falaysia ym 1974, mae wedi hyfforddi cenedlaethau o bobl mewn karate, sefydlu dojos a hybu parch rhyngddiwylliannol. Y tu hwnt i’r dojo, mae Mike yn arwain Academi Hyfforddi CCW, gan ddefnyddio addysg a chwaraeon i roi hwb i gymunedau a ymyleiddiwyd.
Teilyngwyr: Gerald Cordle a Keri Chahal
Seren Ddisglair y Flwyddyn a noddwyd gan y Gymdeithas Heddlu Du
Enillydd: Mimi Xu
Wedi’i geni yn Abertawe, gwnaeth Mimi hanes yn 2025 fel y fenyw Gymreig gyntaf mewn 20 mlynedd i chwarae ym mhrif gystadleuaeth unigolion Wimbledon. Yn seren ddisglair yn y byd tennis, mae wedi ennill nifer o gystadlaethau’r Ffederasiwn Tennis Rhyngwladol (ITF) ac wedi cyrraedd rownd derfynol y Gamp Fawr iau. I ffwrdd o’r cwrt, mae Mimi yn cefnogi prosiect “She Can”, gan ddefnyddio ei phlatfform i ysbrydoli merched a hybu cynhwysiant drwy chwaraeon yn ei thref enedigol a thu hwnt.
Teilyngwyr: Isha Mekala a Nathan de Vaux
Mabolgampwr y Flwyddyn a noddwyd gan Actif Gogledd Cymru
Enillydd: Charlie Sikwa
Wedi’i eni yn Zambia a’i fagu yng Nghymru, mae Charlie yn ymladdwr Muay Thai proffesiynol gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad. Yn ogystal â bod yn Bencampwr y Byd ddwywaith, mae hefyd wedi bod yn bencampwr yng Nghymru, Prydain ac Ewrop. Mae Charlie yn falch o gynrychioli’r DU yn rhyngwladol ac yn mentora pobl eraill fel hyfforddwyr. Mae ei daith yn adlewyrchu ei ymroddiad a’i ymrwymiad i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymladdwyr.
Teilyngwyr: Mark Brown a Tahmid Miah
Mabolgampwraig y Flwyddyn a noddwyd gan Ed Rankin Associates
Enillydd: Anna Hursey
Gwnaeth Anna hanes fel yr athletwraig ieuengaf i gynrychioli Cymru ar lefel uwch. Wedi ennill medal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad a chymhwyso yn y Gemau Olympaidd, mae hefyd wedi ennill Pencampwriaeth Dan 21 Ewrop 2025 ac yn cael ei hystyried y 53fed gorau yn y byd ar hyn o bryd. O gystadlaethau byd-eang i ysbrydoli chwaraewyr ifanc, mae Anna yn parhau i chwalu rhwystrau mewn tennis bwrdd ac yn falch o gynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Teilyngwyr: Mimi Xu a Soffia Kelly
Gwirfoddolwr y Flwyddyn a noddwyd gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru
Enillydd: Tamjid Miah
Tamjid yw un o sefydlwyr y Bengal Dragons Foundation ac mae’n wirfoddolwr chwaraeon brwd. Mae’n hyfforddi timau pêl-droed ac yn cefnogi sesiynau golff Hanner Nos Ramadan, gan gyfuno chwaraeon ac ymgysylltiad cymunedol. Mae ymrwymiad Tamjid i ddatblygu athletwyr ifanc a threfnu gweithgareddau cynhwysol yn ei wneud yn ffigwr allweddol mewn chwaraeon llawr gwlad.
Teilyngwyr: Awara Rasul a Nazrul Islam
Person Ifanc y Flwyddyn a noddwyd gan Concept Fire & Electrical Ltd
Enillydd: Khadija Islam
Mae Khadija yn hyfforddwr nofio a thennis cymwys sy’n addysgu plant ac oedolion yng nghanolfan Casnewydd Fyw. Mae’n gwirfoddoli gyda KidCare4U a mentrau lleol eraill, gan ddefnyddio chwaraeon i fagu hyder a meithrin cynhwysiant. Mae ei hymroddiad i hyfforddi a’r gymuned yn ei gwneud hi’n esiampl amlwg i bobl ifanc yng Nghasnewydd.
Teilyngwyr: Rahma Liban a Sami Ul Islam
