Skip to main content

Ers i ni ddechrau yn 2016 fel ‘Chwaraeon BME Cymru’, rydym wedi bod yn flaenllaw mewn hyrwyddo amrywiaeth mewn chwaraeon yng Nghymru. Dechreuodd ein taith gyda gweledigaeth i wneud chwaraeon yn fwy hygyrch a chroesawgar i gymunedau amrywiol Cymru. Wedi’i gyllido gan Chwaraeon Cymru a’n harwain gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), rydym wedi tyfu i fod yn fenter gref sydd nid yn unig yn cyflawni ein nodau, ond sydd hefyd yn mynd y tu hwnt i’r nodau hyn.

Y grym y tu ôl i’n llwyddiant yw Rajma Begum. Gyda brwdfrydedd sy’n deillio o’i phrofiadau ei hun ac ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, mae Rajma wedi arwain Amrywiaeth Chwaraeon Cymru i fod yn ffagl o obaith a chynwysoldeb. Mae ei harweinyddiaeth wedi ennill cydnabyddiaeth iddi, gan gynnwys gwobr am ei chyfraniad rhagorol i Chwaraeon, y Celfyddydau a Diwylliant yng Ngwobrau 2021 Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA). Fel un o aelodau bwrdd Chwaraeon Cymru a chefnogwr cydraddoldeb, mae dylanwad Rajma yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’n mudiad ni, gan ysbrydoli newid ar draws yr holl sector chwaraeon.

Ein nod

yw cynyddu’r cyfranogiad mewn chwaraeon, adeiladu capasiti ar gyfer ymgysylltu, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ymhlith cymunedau ethnig amrywiol Cymru. Rydym wedi cyflawni canlyniadau rhyfeddol mewn cyfranogiad, gwirfoddoli, digwyddiadau gweithlu a phartneriaethau, ac mae ein heffaith wedi treiddio i mewn i fyd iechyd, addysg, cydlyniant cymunedol a mwy.

Wrth i ni barhau i dyfu, mae Amrywiaeth Chwaraeon Cymru yn parhau i fod yn ddi-syfl yn ein diben i ysbrydoli cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ledled Cymru. Gwyddom na allwn gyflawni ein nodau ar ein pennau ein hunain, mae llawer o fudiadau a phobl eraill yng Nghymru sy’n gwneud gwaith gwych i wneud yn siŵr bod chwaraeon i bawb. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, yn cyfeirio at gyfleoedd ac yn rhannu arferion da. Mae ein gwaith yn cael ei gyllido gan Chwaraeon Cymru ac rydym yn defnyddio fforymau a chyfleoedd rhwydweithio i gael mwy o gydnabyddiaeth ac amlygrwydd.

Ymunwch â ni yn ein hymrwymiad i greu dyfodol mwy cynhwysol, teg a ffyniannus yn y maes chwaraeon yng Nghymru. Gyda’n gilydd, ni yw Amrywiaeth Chwaraeon Cymru – lle y mae pob cam ymlaen i’r cae yn gam at undod ac amrywiaeth ar waith.

Accessibility Toolbar