Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr ac rydym yn edrych yn ôl ar rai o’r gwirfoddolwyr ysbrydoledig a gafodd eu cydnabod yn ein Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru (WEDSA).
Mae Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru (WEDSA) yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau anhygoel unigolion a chymunedau ethnig amrywiol mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Cymru.
Yn 2025 fe wnaethom roi sbotolau ar faes sy’n eistedd wrth wraidd chwaraeon cynhwysol, gwirfoddoli. Mae gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn dathlu’r rheini sy’n rhoi eu hamser, eu hegni a’u brwdfrydedd i sicrhau bod chwaraeon yng Nghymru yn groesawgar, yn gynrychioliadol ac yn hygyrch i bawb.
PAM MAE GWIRFODDOLI YN BWYSIG MEWN CHWARAEON
Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn chwaraeon llawr gwlad. Maen nhw’n agor drysau, yn creu mannau diogel, ac yn ysbrydoli pobl eraill i gymryd rhan, yn aml heb gydnabyddiaeth na gwobr. Yn WEDSA 2025, fe wnaethom anrhydeddu unigolion y mae eu hymrwymiad yn mynd y tu hwnt i gyfranogiad, gan ddefnyddio chwaraeon fel adnodd pwerus i adeiladu cymunedau, cynhwysiant a newid cymdeithasol.
TEILYNGWYR EIN GWOBR GWIRFODDOLWR Y FLWYDDYN
Mae gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cydnabod unigolyn sydd wedi dangos ymroddiad eithriadol ac wedi cael effaith sylweddol wrth hyrwyddo amrywiaeth ethnig a chynhwysiant o fewn chwaraeon trwy wirfoddoli. Mae enwebeion yn dangos arweinyddiaeth, arloesedd, ac ymrwymiad cyson i sicrhau bod chwaraeon yn ofod lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi.
Enillydd: Tamjid Miah
Cafodd Tamjid Miah, un o sylfaenwyr y Bangal Dragons Foundation, ei enwi fel Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2025 WEDSA i gydnabod ei ymrwymiad hirsefydlog i chwaraeon a datblygu cymunedol. Ers dyddiau cynnar y mudiad fel clwb pêl-droed sy’n arddangos talent Bangladesh yng Nghymru, mae Tamjid wedi chwarae rhan hanfodol yn ei dwf a’i gyflawniad beunyddiol.
Yn selog dros chwaraeon ac yn golffiwr brwd, mae Tamjid wedi cefnogi sesiynau Golff Ramadan Hanner Nos y sefydliad ers 2022, gan gyfuno chwaraeon, ffydd a chysylltiad cymunedol. Ochr yn ochr â rolau hyfforddi gyda’r Bengal Dragons a Chaerau Trelái, mae bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu athletwyr ifanc trwy sesiynau hyfforddi wythnosol. Mae ei ymroddiad, ei ostyngeiddrwydd, a’i gred mewn eraill yn ei wneud yn fodel rôl pwerus mewn chwaraeon ar lawr gwlad Cymru.
Teilyngwr: Awara Rasul
Am fwy nag 20 mlynedd, mae Awara Rasul wedi bod yn biler o gefnogaeth i geiswyr noddfa a ffoaduriaid yng Nghaerdydd. Mae ei wirfoddoli yn cwmpasu chwaraeon, addysg, eiriolaeth a chadwraeth ddiwylliannol.
Mae Awara yn rhedeg caffi rhyngrwyd croesawgar sy’n hyb diogel i unigolion sydd newydd gyrraedd sy’n chwilio am gysylltiad a chefnogaeth. Mae’n hyfforddi clwb pêl-droed amrywiol sy’n dod â phobl ifanc at ei gilydd ar draws diwylliannau, a hefyd yn gwirfoddoli mewn ysgol Cwrdaidd i helpu plant i gadw mewn cysylltiad â’u hiaith a’u hunaniaeth. Yn adnabyddus am beidio byth â throi unrhyw un i ffwrdd, mae Awara yn cynnig gwasanaeth cyfieithu, cymorth tai ac arweiniad trwy systemau cymhleth. Cafodd ei waith ei gydnabod yn genedlaethol yn 2025 gyda dwy Wobr Cenedl Noddfa, sy’n adlewyrchu’r effaith ddofn y mae’n parhau i’w chael ar fywydau di-ri.
Teilyngwr: Nazrul Islam
Mae Nazrul Islam yn wirfoddolwr ymroddedig sy’n defnyddio chwaraeon i hyrwyddo lles, cynhwysiant a pherthyn. Trwy ei arweinyddiaeth gyda’r Bengal Dragons Foundation a mentrau llawr gwlad eraill, mae Naz wedi creu mannau diogel a chroesawgar i bobl o bob oedran, cefndir a gallu.
Mae Naz wedi bod yn allweddol i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad i gymunedau ethnig lleiafrifol, gan ddatblygu mentrau fel sesiynau pêl-droed Ramadan a rhaglenni ieuenctid arloesol. Y tu hwnt i drefnu chwaraeon, mae’n mentora pobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu hyder, sgiliau arweinyddiaeth, ac ymdeimlad o ddiben. Mae ei ddull cydweithredol wedi adeiladu partneriaethau cryf gydag ysgolion, awdurdodau lleol a mudiadau cymunedol ledled Cymru.
DATHLU’R EFFAITH
Mae teilyngwyr y wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn defnyddio chwaraeon fel grym er daioni. Mae pob unigolyn yn dangos sut gall cynhwysiant, ymrwymiad ac ysbryd cymunedol drawsnewid bywydau.
Nid dim ond dathliad o gyflawniad oedd WEDSA 2025; roedd yn gydnabyddiaeth o’r camau gweithredu bob dydd sy’n creu byd chwaraeon mwy cynhwysol yng Nghymru, o dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n llunio’r dyfodol.
EISIAU CYMRYD RHAN MEWN GWIRFODDOLI?
Mae straeon gwirfoddolwyr WEDSA yn dangos pa mor bwerus y gall rhoi amser fod. O hyfforddi a mentora i gefnogi digwyddiadau a chlybiau ar lawr gwlad, mae gwirfoddoli yn chwarae rhan hanfodol mewn gwneud chwaraeon yn fwy cynhwysol, croesawgar a chynrychioladol.
Anogir unrhyw un sydd wedi’i ysbrydoli gan y teilyngwyr a’r enillwyr i edrych ar sut gall ef neu hi gymryd rhan ei hun. Mae gan wefan Gwirfoddoli Cymru ystod eang o gyfleoedd ar draws y meysydd chwaraeon, iechyd, cymuned a gwaith ieuenctid.
Gyda’i gilydd, trwy wirfoddoli amser, sgiliau a brwdfrydedd, gall pobl ledled Cymru helpu i adeiladu cymunedau chwaraeon cryfach, tecach a mwy cynhwysol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
WYTHNOS GWIRFODDOLWYR
1-7 Mehefin 2026 yw’r Wythnos Gwirfoddolwyr, yr ymgyrch flynyddol ledled y DU i ddathlu a chydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr. Byddwn yn ymuno â gweddill y DU i ddathlu gwirfoddolwyr, myfyrio, gwerthfawrogi, ac yn bwysicaf oll dweud diolch. Darllenwch fwy am sut i gymryd rhan yn Wythnos Gwirfoddolwyr 2026.
