Skip to main content

Aeth Amrywiaeth Chwaraeon Cymru ar sioe deithiol deuddydd ar draws Powys a Cheredigion, gan gwrdd ag amrywiaeth o grwpiau a gwirfoddolwyr i ddeall cynhwysiant mewn chwaraeon ledled Canolbarth Cymru.  

PAM ROEDD Y SIOE DEITHIOL HON YN BWYSIG 

Fel rhan o’r gwaith parhaus i wella tegwch, ymdeimlad o berthyn a chyfranogiad mewn chwaraeon,  cynhaliodd ein prosiect Amrywiaeth Chwaraeon Cymru daith wrando deuddydd o hyd ledled Canolbarth Cymru yn ddiweddar. Cafodd yr ymweliadau eu harwain gan Rajma Begum (Rheolwr Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol) a Sumaya Khan (Swyddog Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol), ynghyd ag Elin Wozencraft, Rheolwr Partneriaeth a Rhaglen Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru (MWSP). 

Nod y sioe deithiol oedd deall profiadau cymunedau ledled Powys a Cheredigion, nodi rhwystrau, a meithrin cysylltiadau cryfach â grwpiau sy’n awyddus i gymryd rhan ond a allai gael trafferth cael mynediad at chwaraeon. 

Daeth un neges yn amlwg ym mhob sgwrs, bod awydd cryf a chynyddol am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghanolbarth Cymru, ond bod mynediad, cost, hyder a gallu yn parhau i fod yn heriau allweddol.  

POWYS: AMRYWIAETH GYNYDDOL A’R ANGEN AM GYFLEOEDD CYSON 

Y stop cyntaf oedd Cyngor Sir Powys, lle rhannodd staff fewnwelediadau i’r boblogaeth fwyfwy amrywiol yn y Drenewydd. Mae teuluoedd yn awyddus i gymryd rhan mewn chwaraeon, ond mae angen sesiynau rheolaidd arnyn nhw, cymorth i ddeall beth sydd ar gael a gweithgareddau sy’n cynnwys y teulu cyfan. 

Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn hyfforddiant i staff a chlybiau lleol ar gynhwysiant chwaraeon, yn ogystal â chryfhau cysylltiadau â mentrau lleol fel Amdani Powys. 

 Yng Nghymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), canolbwyntiodd trafodaethau ar y realiti sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol. Tra bod rhai cymunedau yn profi gweithgarwch ffyniannus, mae eraill yn wynebu bylchau sylweddol. Roedd problemau capasiti, cymorth anghyson i wirfoddolwyr a diffygiad yn themâu ailadroddus. Amlygodd PAVO yr angen am rolau gwirfoddoli mwy clir, cyfleoedd blasu, a mwy o ddigwyddiadau ymgysylltu rhanbarthol. 

Gwnaeth y sgyrsiau hyn bwysleisio faint mae chwaraeon cymunedol yn dibynnu ar wirfoddolwyr a pha mor bwysig yw hi i’w helpu.  

CEFNOGI TEULUOEDD SY’N WYNEBU RHWYSTRAU LLUOSOG 

Rhannodd staff Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) straeon am deuluoedd sy’n byw ym Mhowys, lle mae rhwystrau diwylliannol, ieithyddol ac ariannol yn ei gwneud hi’n anodd iddynt gymryd rhan. Roedd y galw am nofio i ferched yn unig yn uchel, ochr yn ochr â diddordeb mewn badminton a thenis bwrdd, ond mae presenoldeb yn amrywio oherwydd diffyg hyder a heriau trafnidiaeth. 

Gwnaeth EYST dynnu sylw at bwysigrwydd ymddiriedaeth: mae llawer o deuluoedd dim ond yn ymgysylltu pan fyddant yng nghwmni rhywun cyfarwydd. Mae hyn yn pwysleisio pa mor hanfodol yw hi i feithrin cydberthnasau wrth greu llwybrau chwaraeon cynhwysol. 

Roedden nhw’n bwriadu datblygu diwrnod ymgysylltu â’r teulu, wedi’i llunio o amgylch eu hanghenion a’u hamserlenni.  

MOSG A CHYMDEITHAS ISLAMAIDD ABERYSTWYTH: CREU MANNAU SY’N YSGOGI CYFRANOGIAD 

Yn Aberystwyth, pwysleisiodd y Mosg a’r Gymdeithas Islamaidd yr angen am gyfleoedd diwylliannol briodol, yn enwedig i fenywod a myfyrwyr. Ymhlith yr awgrymiadau roedd boreau coffi i fenywod, nosweithiau ieuenctid a thenis bwrdd i greu gweithgareddau cymdeithasol anffurfiol, croesawgar. 

Er bod diddordeb, mae cyfyngiadau cyllid a diffyg cyfleusterau i fenywod yn unig yn cyfyngu mynediad. Mynegodd grwpiau eu bod yn agored i weithio’n agosach gyda phartneriaid lleol a chwilio am grantiau a allai helpu i sefydlu gweithgarwch cynaliadwy. 

CYNGOR CEREDIGION: GWASANAETHAU IEUENCTID YN BAROD I GYSYLLTU POBL IFANC Â CHWARAEON 

Rhannodd Cyngor Ceredigion ddatblygiadau positif sydd eisoes ar waith ledled y sir. Gyda phoblogaeth amrywiol o ieuenctid yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi, mae potensial cryf i gysylltu pobl ifanc â llwybrau chwaraeon ehangach. 

Roedd staff yn frwdfrydig am ddiwrnodau ymgysylltu â theuluoedd i ddod, gan gydnabod eu gwerth wrth gysylltu pobl ifanc, teuluoedd a gwasanaethau lleol.  

CYMDEITHAS MALAYALI ABERYSTWYTH: CRYFDER CYMUNEDOL A BALCHDER DIWYLLIANNOL 

Gwnaeth yr ymweliad â Chymdeithas Malayali Aberystwyth amlygu cymuned fywiog, uchel eu cymhelliant. Roedd gan lawer o deuluoedd, yn enwedig menywod sy’n gweithio yn y maes gofal iechyd, ddiddordeb cryf mewn sesiynau nofio a champfa i fenywod yn unig. Rhannodd eraill sut mae gwaith threfniadau gofal plant heriol yn cyfyngu ar eu gallu i fynychu gweithgareddau rheolaidd. 

Dangosodd enghreifftiau o fentrau a arweinir gan y gymuned beth sy’n bosibl gyda’r gefnogaeth gywir. Ar daith sinema ddiweddar mynychodd 33 o blant, 24 ohonynt am y tro cyntaf! Mae’r gymdeithas hefyd yn trefnu rhaglenni diwylliannol drwy gydol y flwyddyn, a allai gynnig pont naturiol i weithgareddau chwaraeon. 

Gyda chymorth i gael cyllid, cysylltu â phartneriaid lleol a dod o hyd i leoliadau addas, mae gan y gymuned hon botensial sylweddol i ddatblygu rhaglenni rheolaidd.  

CAVO: GWYBODAETH RANBARTHOL A CHYSYLLTIADAU CYMUNEDOL 

Cynigiodd yr ymweliad olaf â Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) drosolwg o gymunedau amrywiol ledled Ceredigion, gan gynnwys grwpiau o Wlad Pwyl, Syria a Tsieina, a mewnwelediad i leoliadau, grantiau a rhwydweithiau lleol a allai arwain at ddarpariaeth chwaraeon fwy cynhwysol. Bydd eu gwybodaeth nhw’n hanfodol wrth ddatblygu diwrnodau ymgysylltu a rhaglenni hyfforddi yn y dyfodol.  

Drwy gydol y sioe deithiol, gwnaeth y gefnogaeth gan Elin Wozencraft a Phartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru (MWSP) gryfhau’r cysylltiadau ar draws y rhanbarth. Mae rhagor o wybodaeth am MWSP a phartneriaethau chwaraeon rhanbarthol eraill ar gael ar wefan Chwaraeon Cymru.  

BETH SY’N DIGWYDD NESAF? 

Bydd y mewnwelediadau a gasglwyd yn ystod y sioe deithiol yn llywio cyfres o gamau nesaf: 

  • Diwrnodau ymgysylltu â theuluoedd rhanbarthol ym Mhowys a Cheredigion 
  • Mwy o fynediad at hyfforddiant ar gynhwysiant chwaraeon 
  • Cymorth i grwpiau cymunedol sy’n gwneud cais am gyllid 
  • Partneriaethau cryfach ar draws gwasanaethau ieuenctid, mudiadau ffydd a rhwydweithiau gwirfoddolwyr 
  • Cydweithio parhaus ag MWSP i greu llwybrau cynaliadwy i chwaraeon  

CYMRYD RHAN 

Anogir grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a mudiadau yng Nghanolbarth Cymru a hoffai gymryd rhan yn y gwaith hwn i gysylltu â Phartneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru. Bydd CGGC yn parhau i rannu diweddariadau, adnoddau a chyfleoedd wrth i’r gwaith hwn barhau. 

Leave a Reply

Accessibility Toolbar