Skip to main content

Cafodd Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru (WEDSA) eu sefydlu i fynd i’r afael â bwlch gwelededd hirsefydlog mewn chwaraeon yng Nghymru. Pan lansiwyd y gwobrau yn 2023, gwnaeth y sylfaenydd Rajma Begum, Rheolwr Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol CGGC – bwysleisio bod yr angen i amlygu a dathlu cyfraniadau unigolion, clybiau a chymunedau ethnig amrywiol ledled Cymru sy’n defnyddio chwaraeon a gweithgareddau corfforol i ysbrydoli, arwain a chwalu rhwystrau yn hollbwysig. 

Fel  y pwysleisiodd Rajma ar y pryd, “Allwch chi ddim bod yn rhywbeth na allwch chi ei weld,” a gwnaeth Rehnaz Khan – a gafodd ei henwi’n Unigolyn Ysbrydoledig y Flwyddyn yn y gwobrau agoriadol yn 2023 – ddangos sut gallai ethnigrwydd, anabledd a rhywedd waethygu allgau o fewn chwaraeon. 

Rajma yn rhoi ei sylwadau agoriadol yn WEDSA 2025 

O’r cychwyn cyntaf, cafodd WEDSA ei chynllunio fel mwy na noson wobrwyo yn unig – roedd yn her i fudiadau chwaraeon ledled Cymru roi cynrychiolaeth ar frig eu hagenda. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r gwobrau wedi tyfu i fod yn faromedr o gynnydd, yn adnodd ar gyfer cydnabyddiaeth, ac yn neges atgoffa iach bod gan yr ymdrech i gael mwy o amrywiaeth a chynhwysiant mewn chwaraeon yng Nghymru ymhell o fod ar ben. 

Yn WEDSA 2025, Cyflwynwyd dwy wobr newydd: Blaengarwr mewn Chwaraeon – a gyflwynwyd i ddathlu unigolyn sydd wedi trawsnewid chwaraeon yng Nghymru drwy arloesi ac arwain, a Seren Ddisglair y Flwyddyn sy’n cydnabod unigolyn eithriadol o dan 18 oed sydd wedi dangos ymroddiad, gwydnwch a chyflawniad eithriadol mewn chwaraeon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Yr enillwyr a’r teilyngwyr a gydnabu yn y gwobrau 

Cafodd gwobrau 2025 hefyd eu cynnal mewn lleoliad newydd. ICC Cymru oedd y llwyfan ar gyfer dathlu cyflawniadau chwaraeon cymunedau ethnig amrywiol yng Nghymru. Fel y gwelwyd yng ngwobrau agoriadol 2023, roedd y bwth lluniau 360 yn ôl. Ond ar ben hyn, cafodd y rheini a oedd yn bresennol berfformiad dhol rhagorol, perfformiad dawns Indiaidd trawiadol, ac arddangosiad gwych o grefftau ymladd, acrobateg a dawns Brasil gan Capoeira Casnewydd. 

Cawsom sioe anhygoel gan India Dance Wales  

Mae WEDSA gymaint yn fwy na noson dyfarnu gwobrau’n unig. Mae’n ymwneud â diwylliant, dathlu a dod â phobl ynghyd i gydnabod y cymunedau cyfoethog, ethnig amrywiol sy’n ffynnu yng Nghymru trwy chwaraeon. Serch beth mae llawer yn ei feddwl, mae Cymru wastad wedi cael hanes cyfoethog o amrywiaeth ddiwylliannol, a gellir olrhain hyn yn ôl nid yn unig i’r Genhedlaeth Windrush ond mor bell yn ôl â chyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan oedd poblogaeth Dduon ac Asiaidd Caerdydd yr ail fwyaf yn y DU, yn ail i Lundain yn unig. 

Ymhell cyn i Vanessa O’Brien a Wendy Reilly gamu ar gae pêl-droed, ymhell cyn i Mark Brown a Glen Webbe gamu ar gae rygbi, ymhell cyn i Steve Robinson a Nigel Walker wisgo eu menig bocsio a’u pigau, roedd gan bobl o dreftadaeth gymysg bresenoldeb sylweddol yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod WEDSA yn parhau i sicrhau bod cymunedau amrywiol yn parhau i gael eu harddangos a’u dathlu trwy chwaraeon. 

Roedd y lle dan ei sang ar y noson 

Gwnaeth Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) – prif noddwr WEDSA 2025 – ailadrodd pwysigrwydd y gwobrau ar y noson. “Mae Gwobrau Chwaraeon Amrywiaeth Ethnig Cymru yn ddathliad pwerus o ddawn, gwydnwch a chynrychiolaeth. Maen nhw’n taflu goleuni ar yr unigolion a’r cymunedau sy’n gwneud chwaraeon Cymru yn gryfach, yn fwy creadigol ac yn fwy cynhwysol,” meddai. 

Aeth Mr Mooney ymlaen i ddweud: “Mae gan chwaraeon y pŵer i uno, i ysbrydoli, ac i drawsnewid bywydau. Pan fydd pob llais yn cael ei glywed, a phob cymuned yn cael ei chynrychioli, mae arloesedd yn ffynnu a daw ein dyfodol ni i gyd yn fwy disglair,” eglurodd. “Nid modelau rôl o fewn chwaraeon yn unig yw’r athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr a gydnabyddir yn y gwobrau hyn; maen nhw’n arweinwyr sy’n llunio Cymru fodern, flaengar a chynhwysol.  

“Gyda’n gilydd, gallwn greu ymgyrch chwaraeon sy’n adlewyrchu pob un ohonom – ymgyrch sy’n parhau i chwalu rhwystrau, dathlu amrywiaeth, a gwneud Cymru yn wlad lle mae pawb yn perthyn.” 

Evelyn James a Bablu Shikdar, cyflwynwyr WEDSA 2025 

Mae chwalu rhwystrau yn aruthrol o bwysig, gan fod y galw gan bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn bendant yno. Yn ôl Adroddiad Cyflwr y Genedl Chwaraeon Cymru 2024-25, gwnaeth 58% o oedolion a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’ gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, a gwnaeth 67% o’r rheini a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn Arall’ ac ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ (a oedd yn cynnwys oedolion Du, Asiaidd a Chymysg) gymryd rhan. 

O ran oedolion a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol dair gwaith neu ragor yr wythnos, y gyfradd gyfranogiad oedd 35% ar gyfer y rheini a oedd yn uniaethu fel ‘Gwyn’, 39% i’r rheini a oedd yn uniaethu fel ‘Gwyn Arall’, a 36% ar gyfer oedolion a oedd yn syrthio o fewn y garfan ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’. 

Mae’r niferoedd yn dangos bod awydd cyffredinol ymhlith llawer o bobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Roedd yr enwebeion, y teilyngwyr ac enillwyr y gwobrau a gydnabuwyd yn WEDSA 2025 yn dystiolaeth glir o hyn, fel y gwnaeth Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), dynnu sylw ato yn ei sylwadau agoriadol. 

Dr Lindsay Cordery-Bruce yn rhoi ei sylwadau yn WEDSA 

“Mae heno yn gyfle i ddathlu ein hamrywiaeth bendigedig yng Nghymru a chydnabod gwaith arloesol unigolion a chymunedau ethnig amrywiol,” meddai. Aeth Dr Cordery-Bruce ymlaen i ddweud, “Mae’r newid rydych chi’n ei wneud drwy gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru yn rhyfeddol. P’un a yw hynny’n golygu chwalu rhwystrau, hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant, neu fod yn fodel rôl a dangos i bobl beth y gellir ei gyflawni. 

“Rydych chi’n newid bywydau a safbwyntiau bob dydd ac rwy’n gobeithio, trwy fod yma heno fel enwebai, teilyngwr neu’n enillydd, y byddwch yn cael cipolwg ar sut mae eich gweithrediadau wedi trawsnewid bywydau.” 

Nid yw WEDSA yn mynd i unrhyw le. Na gwaith arloesol unigolion a chymunedau ethnig amrywiol yng Nghymru ychwaith sy’n parhau i gael effaith bositif trwy chwaraeon. Mae’r cloc yn cyfri i lawr yn barod i’r gwobrau nesaf yn 2027, ac erbyn hynny rydym i gyd yn gobeithio y byddwn ychydig yn agosach at ddod yn genedl fwy egnïol, cynhwysol.

Leave a Reply

Accessibility Toolbar